编辑: 捷安特680 | 2019-07-05 |
i ganfyddiadau i'
r Swyddog Dynodedig a'
r cynrychiolydd AD, a fydd yn amlinellu a oes sail resymol dros fynd yn groes i reolau disgyblu. Os nad oes sail resymol, rhoddir gwybod am hyn gan y Swyddog Dynodedig i'
r unigolyn sy'
n mynegi'
r pryder. 26. Os oes sail ar gyfer disgyblu, bydd y Swyddog Dynodedig yn trefnu wedyn i wrandawiad disgyblu gael ei gynnal. Dylid cynnal y cyfarfod heb oedi afresymol a rhoi amser rhesymol i'
r cyflogai baratoi ei achos a rhoi'
r holl dystiolaeth berthnasol sydd wedi'
i chasglu gan y Swyddog Ymchwilio iddo. Gweithdrefnau disgyblu Awdur: Rheolwr AD Dyddiad: 24/02/2016 Tudalen
4 o
9 Fersiwn: 3.1 Cyfeirnod: D01 Adolygiad nesaf: Chwefror
2019 27. Bydd cynrychiolydd AD yn mynychu'
r gwrandawiad disgyblu hefyd, i sicrhau bod proses briodol yn cael ei dilyn. 28. Bydd y cyflogai'
n cael cyfle i ddatgan ei achos ef neu hi yn ystod y cyfarfod disgyblu a chyn gorfodi cosb ddisgyblu. 29. Heb oedi afresymol yn dilyn y gwrandawiad, bydd y Swyddog Dynodedig yn rhoi gwybod ar lafar i'
r cyflogai am y penderfyniad sydd wedi'
i wneud. Cadarnheir hyn yn ysgrifenedig gan yr adran Adnoddau Dynol. Cosb Ddisgyblu 30. Wrth benderfynu ar y gosb ddisgyblu briodol, rhoddir ystyriaeth i gofnod cyflogaeth blaenorol y cyflogai, natur y trosedd ac amgylchiadau pob achos arbennig. Fodd bynnag, ni chyfeirir at unrhyw gosbau disgyblu blaenorol sydd wedi dod i ben. Cam gweithredu ffurfiol cyntaf ar gyfer perfformiad anfoddhaol 31. Bydd nodyn gwelliant yn cael ei roi ar gyfer presenoldeb/ymddygiad/perfformiad anfoddhaol. Bydd yn datgan y mater, y gwelliant sy'
n ofynnol, yr amserlen, unrhyw help a roddir a'
r hawl i apelio. Hwn fydd cam cyntaf y weithdrefn ffurfiol. Cedwir cofnod o'
r nodyn gwelliant yn ffeil personél yr adran Adnoddau Dynol am gyfnod o chwe mis (Gweler Hyd y Rhybuddion), yn amodol ar gyflawni a chynnal y gwelliant. Cam gweithredu ffurfiol cyntaf ar gyfer camymddwyn 32. Bydd rhybudd ysgrifenedig cyntaf yn cael ei roi am gamymddwyn. Bydd y rhybudd hwn yn datgan y mater, y newid sy'
n ofynnol a'
r hawl i apelio. Bydd hyn yn rhoi gwybod i'
r cyflogai y gall rhybudd ysgrifenedig terfynol gael ei ystyried os bydd camymddwyn pellach. Cedwir cofnod o'
r rhybudd yn ffeil personél yr adran Adnoddau Dynol am gyfnod o chwe mis, yn amodol ar gyflawni a chynnal y gwelliant. 33. Ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis, bydd y cofnod yn cael ei ddileu os cyflawnwyd gwelliant. Bydd unrhyw gamau disgyblu yn y dyfodol yn cael eu trin fel pe na bai unrhyw rybuddion blaenorol yn y ffeil. Rhybudd ysgrifenedig terfynol 34. Os oes gan y cyflogai rybudd neu nodyn gwelliant presennol am ymddygiad neu berfformiad, gall camymddwyn neu berfformiad anfoddhaol pellach warantu rhybudd ysgrifenedig terfynol. Gall hyn ddigwydd hefyd pan fo'
r camymddwyn '
trosedd cyntaf'
yn ddigon difrifol, ond ni fyddai'
n cyfiawnhau diswyddo. Bydd y rhybudd ysgrifenedig yn rhoi manylion am y mater, y gwelliant gofynnol a'
r amserlen. Bydd hefyd yn rhybuddio y gall methu gwella arwain at ddiswyddo (neu ffurf arall ar gosb heb fod yn ddiswyddo) a bydd y cyflogai'
n cael hawl i apelio. Fel rheol bydd y rhybudd hwn yn parhau'
n gyfredol am
12 mis. Bydd copi o'
r rhybudd hwn yn cael ei gadw yn ffeil personél yr adran Adnoddau Dynol. Gweithdrefnau disgyblu Awdur: Rheolwr AD Dyddiad: 24/02/2016 Tudalen
5 o
9 Fersiwn: 3.1 Cyfeirnod: D01 Adolygiad nesaf: Chwefror
2019 35. Ar ddiwedd y cyfnod o